20. Yr hwn sydd dlawd ei offrwm a ddewis bren ni phydra; efe a gais ato saer cywraint, i baratoi cerfddelw, yr hon ni syfl.
21. Oni wybuoch? oni chlywsoch? oni fynegwyd i chwi o'r dechreuad? oni ddeallasoch er seiliad y ddaear?
22. Efe sydd yn eistedd ar amgylchoedd y ddaear, a'i thrigolion sydd fel locustiaid; yr hwn a daena y nefoedd fel llen, ac a'i lleda fel pabell i drigo ynddi:
23. Yr hwn a wna lywodraethwyr yn ddiddim; fel gwagedd y gwna efe farnwyr y ddaear.
24. Ie, ni phlennir hwynt, nis heuir chwaith; ei foncyff hefyd ni wreiddia yn y ddaear: ac efe a chwyth arnynt, a hwy a wywant, a chorwynt a'u dwg hwynt ymaith fel sofl.
25. I bwy gan hynny y'm cyffelybwch, ac y'm cystedlir? medd y Sanct.
26. Dyrchefwch eich llygaid i fyny, ac edrychwch pwy a greodd y rhai hyn, a ddwg eu llu hwynt allan mewn rhifedi: efe a'u geilw hwynt oll wrth eu henwau; gan amlder ei rym ef, a'i gadarn allu, ni phalla un.
27. Paham y dywedi, Jacob, ac y lleferi, Israel, Cuddiwyd fy ffordd oddi wrth yr Arglwydd, a'm barn a aeth heibio i'm Duw?
28. Oni wyddost, oni chlywaist, na ddiffygia ac na flina Duw tragwyddoldeb, yr Arglwydd, Creawdwr cyrrau y ddaear? ni ellir chwilio allan ei synnwyr ef.
29. Yr hwn a rydd nerth i'r diffygiol, ac a amlha gryfder i'r di‐rym.
30. Canys yr ieuenctid a ddiffygia ac a flina, a'r gwŷr ieuainc gan syrthio a syrthiant:
31. Eithr y rhai a obeithiant yn yr Arglwydd a adnewyddant eu nerth; ehedant fel eryrod; rhedant, ac ni flinant; rhodiant, ac ni ddiffygiant.