Hen Destament

Testament Newydd

Eseia 4:3-6 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

3. A bydd, am yr hwn a adewir yn Seion, ac a weddillir yn Jerwsalem, y dywedir wrtho, O sanct; sef pob un a'r a ysgrifennwyd ymhlith y rhai byw yn Jerwsalem:

4. Pan ddarffo i'r Arglwydd olchi budreddi merched Seion, a charthu gwaed Jerwsalem o'i chanol, mewn ysbryd barn, ac mewn ysbryd llosgfa.

5. A'r Arglwydd a grea ar bob trigfa o fynydd Seion, ac ar ei gymanfaoedd, gwmwl a mwg y dydd, a llewyrch tân fflamllyd y nos: canys ar yr holl ogoniant y bydd amddiffyn.

6. A phabell fydd yn gysgod y dydd rhag gwres, ac yn noddfa ac yn ddiddos rhag tymestl a rhag glaw.

Darllenwch bennod gyflawn Eseia 4