9. Ysgrifen Heseceia brenin Jwda, pan glafychasai, a byw ohono o'i glefyd:
10. Myfi a ddywedais yn nhoriad fy nyddiau, Af i byrth y bedd; difuddiwyd fi o weddill fy mlynyddoedd.
11. Dywedais, Ni chaf weled yr Arglwydd Iôr yn nhir y rhai byw: ni welaf ddyn mwyach ymysg trigolion y byd.
12. Fy nhrigfa a aeth, ac a symudwyd oddi wrthyf fel lluest bugail: torrais ymaith fy hoedl megis gwehydd; â nychdod y'm tyr ymaith: o ddydd hyd nos y gwnei ben amdanaf.
13. Cyfrifais hyd y bore, mai megis llew y dryllia efe fy holl esgyrn: o ddydd hyd nos y gwnei ddiben arnaf.
14. Megis garan neu wennol, felly trydar a wneuthum; griddfenais megis colomen; fy llygaid a ddyrchafwyd i fyny: O Arglwydd, gorthrymwyd fi; esmwythâ arnaf.
15. Beth a ddywedaf? canys dywedodd wrthyf, ac efe a'i gwna: mi a gerddaf yn araf fy holl flynyddoedd yn chwerwedd fy enaid.
16. Arglwydd, trwy y pethau hyn yr ydys yn byw, ac yn yr holl bethau hyn y mae bywyd fy ysbryd i; felly yr iachei, ac y bywhei fi.
17. Wele yn lle heddwch i mi chwerwder chwerw: ond o gariad ar fy enaid y gwaredaist ef o bwll llygredigaeth: canys ti a deflaist fy holl bechodau o'r tu ôl i'th gefn.
18. Canys y bedd ni'th fawl di, angau ni'th glodfora: y rhai sydd yn disgyn i'r pwll ni obeithiant am dy wirionedd.