Hen Destament

Testament Newydd

Eseia 37:30-38 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

30. A hyn fydd yn arwydd i ti, Heseceia: Y flwyddyn hon y bwytei a dyfo ohono ei hun; ac yn yr ail flwyddyn yr atwf; ac yn y drydedd flwyddyn heuwch a medwch, plennwch winllannoedd hefyd, a bwytewch eu ffrwyth hwynt.

31. A'r gweddill o dŷ Jwda, yr hwn a adewir, a wreiddia eilwaith i waered, ac a ddwg ffrwyth i fyny.

32. Canys gweddill a â allan o Jerwsalem, a'r rhai dihangol o fynydd Seion: sêl Arglwydd y lluoedd a wna hyn.

33. Am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd am frenin Asyria, Ni ddaw efe i'r ddinas hon, ac nid ergydia efe saeth yno; hefyd ni ddaw o'i blaen â tharian, ac ni fwrw glawdd i'w herbyn.

34. Ar hyd yr un ffordd ag y daeth y dychwel, ac ni ddaw i mewn i'r ddinas hon, medd yr Arglwydd.

35. Canys mi a ddiffynnaf y ddinas hon, i'w chadw hi er fy mwyn fy hun, ac er mwyn Dafydd fy ngwas.

36. Yna yr aeth angel yr Arglwydd, ac a drawodd yng ngwersyll yr Asyriaid gant a phedwar ugain a phump o filoedd: a phan gyfodasant yn fore drannoeth, wele hwynt oll yn gelaneddau meirwon.

37. Felly Senacherib brenin Asyria a ymadawodd, ac a aeth, ac a ddychwelodd, ac a drigodd yn Ninefe.

38. A bu, fel yr ydoedd efe yn addoli yn nhŷ Nisroch ei dduw, i Adrammelech a Sareser ei feibion, ei daro ef â'r cleddyf; a hwy a ddianghasant i wlad Armenia. Ac Esarhadon ei fab a deyrnasodd yn ei le ef.

Darllenwch bennod gyflawn Eseia 37