Hen Destament

Testament Newydd

Eseia 37:2-11 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

2. Ac a anfonodd Eliacim y penteulu, a Sebna yr ysgrifennydd, a henuriaid yr offeiriaid, wedi ymwisgo mewn sachliain, at Eseia y proffwyd mab Amos.

3. A hwy a ddywedasant wrtho, Fel hyn y dywedodd Heseceia, Diwrnod cyfyngder, a cherydd, a chabledd, yw y dydd hwn: canys y plant a ddaethant hyd yr enedigaeth, ond nid oes grym i esgor.

4. Fe allai y gwrendy yr Arglwydd dy Dduw eiriau Rabsace, yr hwn a anfonodd brenin Asyria ei feistr i gablu y Duw byw, ac y cerydda efe y geiriau a glybu yr Arglwydd dy Dduw: am hynny dyrcha dy weddi dros y gweddill sydd i'w gael.

5. Felly gweision y brenin Heseceia a ddaethant at Eseia.

6. A dywedodd Eseia wrthynt, Fel hyn y dywedwch wrth eich meistr, Fel hyn y dywed yr Arglwydd, Nac ofna y geiriau a glywaist, trwy y rhai y cablodd gweision brenin Asyria fi.

7. Wele fi yn rhoddi arno ef wynt, ac efe a glyw sŵn, ac a ddychwel i'w wlad: gwnaf hefyd iddo syrthio gan y cleddyf yn ei wlad ei hun.

8. Yna y dychwelodd Rabsace, ac a gafodd frenin Asyria yn rhyfela yn erbyn Libna: canys efe a glywsai ddarfod iddo fyned o Lachis.

9. Ac efe a glywodd sôn am Tirhaca brenin Ethiopia, gan ddywedyd, Efe a aeth allan i ryfela â thi. A phan glywodd hynny, efe a anfonodd genhadau at Heseceia, gan ddywedyd,

10. Fel hyn y dywedwch wrth Heseceia brenin Jwda, gan ddywedyd, Na thwylled dy Dduw di, yr hwn yr wyt yn ymddiried ynddo, gan ddywedyd, Ni roddir Jerwsalem yn llaw brenin Asyria.

11. Wele, ti a glywaist yr hyn a wnaeth brenhinoedd Asyria i'r holl wledydd, gan eu difrodi hwynt; ac a waredir di?

Darllenwch bennod gyflawn Eseia 37