1. A Phan glybu y brenin Heseceia hynny, efe a rwygodd ei ddillad, ac a ymwisgodd mewn sachliain, ac a aeth i dŷ yr Arglwydd.
2. Ac a anfonodd Eliacim y penteulu, a Sebna yr ysgrifennydd, a henuriaid yr offeiriaid, wedi ymwisgo mewn sachliain, at Eseia y proffwyd mab Amos.
3. A hwy a ddywedasant wrtho, Fel hyn y dywedodd Heseceia, Diwrnod cyfyngder, a cherydd, a chabledd, yw y dydd hwn: canys y plant a ddaethant hyd yr enedigaeth, ond nid oes grym i esgor.
4. Fe allai y gwrendy yr Arglwydd dy Dduw eiriau Rabsace, yr hwn a anfonodd brenin Asyria ei feistr i gablu y Duw byw, ac y cerydda efe y geiriau a glybu yr Arglwydd dy Dduw: am hynny dyrcha dy weddi dros y gweddill sydd i'w gael.
5. Felly gweision y brenin Heseceia a ddaethant at Eseia.
6. A dywedodd Eseia wrthynt, Fel hyn y dywedwch wrth eich meistr, Fel hyn y dywed yr Arglwydd, Nac ofna y geiriau a glywaist, trwy y rhai y cablodd gweision brenin Asyria fi.
7. Wele fi yn rhoddi arno ef wynt, ac efe a glyw sŵn, ac a ddychwel i'w wlad: gwnaf hefyd iddo syrthio gan y cleddyf yn ei wlad ei hun.
8. Yna y dychwelodd Rabsace, ac a gafodd frenin Asyria yn rhyfela yn erbyn Libna: canys efe a glywsai ddarfod iddo fyned o Lachis.