Hen Destament

Testament Newydd

Eseia 36:1-8 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Ac yn y bedwaredd flwyddyn ar ddeg i'r brenin Heseceia, y daeth Senacherib brenin Asyria i fyny yn erbyn holl gaerog ddinasoedd Jwda, ac a'u goresgynnodd hwynt.

2. A brenin Asyria a anfonodd Rabsace o Lachis i Jerwsalem, at y brenin Heseceia, â llu dirfawr. Ac efe a safodd wrth bistyll y llyn uchaf, ym mhriffordd maes y pannwr.

3. Ac aeth ato ef Eliacim mab Hilceia, yr hwn oedd benteulu, a Sebna yr ysgrifennydd, a Joa mab Asaff y cofiadur.

4. A dywedodd Rabsace wrthynt, Dywedwch yn awr wrth Heseceia, Fel hyn y dywed y brenin mawr, brenin Asyria, Pa hyder yw hwn yr ymddiriedi ynddo?

5. Dywedais, meddi, (ond nid ydynt ond geiriau ofer,) Cyngor a nerth sydd gennyf i ryfel: ar bwy, atolwg, yr hyderi, pan wyt yn gwrthryfela i'm herbyn?

6. Wele, hyderaist ar y ffon gorsen ddrylliedig honno, ar yr Aifft; yr hon pwy bynnag a bwyso arni, hi a â i gledr ei law ef, ac a dylla trwyddi: felly y mae Pharo brenin yr Aifft i bawb a hyderant arno.

7. Ond os dywedi wrthyf, Yn yr Arglwydd ein Duw yr ydym yn ymddiried: onid efe yw yr hwn y darfu i Heseceia dynnu i lawr ei uchelfeydd, a'i allorau, a dywedyd wrth Jwda a Jerwsalem, O flaen yr allor hon yr addolwch?

8. Ac yn awr dod wystlon, atolwg, i'm harglwydd brenin Asyria, a mi a roddaf i ti ddwy fil o feirch, os gelli di roddi rhai a farchogo arnynt.

Darllenwch bennod gyflawn Eseia 36