Hen Destament

Testament Newydd

Eseia 34:15-17 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

15. Yno y nytha y dylluan, ac y dodwa, ac y deora, ac a gasgl yn ei chysgod; y fwlturiaid a ymgasglant yno hefyd, pob un gyda'i gymar.

16. Ceisiwch allan o lyfr yr Arglwydd, a darllenwch; ni phalla un o hyn, ni bydd un heb ei gymar; canys fy ngenau, efe a orchmynnodd, a'i ysbryd, efe a'u casglodd hwynt.

17. Efe hefyd a fwriodd y coelbren iddynt, a'i law ef a'i rhannodd hi iddynt wrth linyn: meddiannant hi hyd byth, a phreswyliant ynddi o genhedlaeth i genhedlaeth.

Darllenwch bennod gyflawn Eseia 34