10. Nis diffoddir nos na dydd; ei mwg a ddring byth: o genhedlaeth i genhedlaeth y diffeithir hi; ni bydd cyniweirydd trwyddi byth bythoedd.
11. Y pelican hefyd a'r draenog a'i meddianna; y dylluan a'r gigfran a drigant ynddi; ac efe a estyn arni linyn anhrefn, a meini gwagedd.
12. Ei phendefigion hi a alwant i'r frenhiniaeth, ond ni bydd yr un yno, a'i holl dywysogion hi fyddant ddiddim.
13. Cyfyd hefyd yn ei phalasau ddrain, danadl ac ysgall o fewn ei cheyrydd: a hi a fydd yn drigfa dreigiau, yn gyntedd i gywion yr estrys.
14. Ac anifeiliaid gwylltion yr anialwch, a'r cathod, a ymgyfarfyddant: yr ellyll a eilw ar ei gyfaill; yr ŵyll a orffwys yno hefyd, ac a gaiff orffwysfa iddi.
15. Yno y nytha y dylluan, ac y dodwa, ac y deora, ac a gasgl yn ei chysgod; y fwlturiaid a ymgasglant yno hefyd, pob un gyda'i gymar.
16. Ceisiwch allan o lyfr yr Arglwydd, a darllenwch; ni phalla un o hyn, ni bydd un heb ei gymar; canys fy ngenau, efe a orchmynnodd, a'i ysbryd, efe a'u casglodd hwynt.
17. Efe hefyd a fwriodd y coelbren iddynt, a'i law ef a'i rhannodd hi iddynt wrth linyn: meddiannant hi hyd byth, a phreswyliant ynddi o genhedlaeth i genhedlaeth.