Hen Destament

Testament Newydd

Eseia 34:1-12 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Nesewch, genhedloedd, i glywed, a gwrandewch, bobloedd; gwrandawed y ddaear ac oll y sydd ynddi, y byd a'i holl gnwd.

2. Canys llidiowgrwydd yr Arglwydd sydd ar yr holl genhedloedd, a'i soriant ar eu holl luoedd hwynt: difrododd hwynt, rhoddes hwynt i'r lladdfa.

3. A'u lladdedigion a fwrir allan, a'u drewiant o'u celanedd a gyfyd i fyny, y mynyddoedd hefyd a doddant o'u gwaed hwynt.

4. Holl lu y nefoedd hefyd a ddatodir, a'r nefoedd a blygir fel llyfr: a'i holl lu a syrth, fel y syrthiai deilen o'r winwydden, ac fel ffigysen yn syrthio oddi ar y pren.

5. Canys fy nghleddyf a drochir yn y nefoedd: wele, ar Edom y disgyn i farn, ac ar y bobl a ysgymunais.

6. Cleddyf yr Arglwydd a lanwyd o waed, tewychodd gan fraster, a chan waed ŵyn a bychod, gan fraster arennau hyrddod: canys mae i'r Arglwydd aberth yn Bosra, a lladdfa fawr yn nhir Edom.

7. A disgyn yr unicorniaid gyda hwynt, a'r bustych gyda'r teirw; a'u tir hwynt a feddwa o'u gwaed hwynt, a'u llwch fydd dew o fraster.

8. Canys diwrnod dial yr Arglwydd, blwyddyn taledigaeth yn achos Seion, yw.

9. A'i hafonydd a droir yn byg, a'i llwch yn frwmstan, a'i daear yn byg llosgedig.

10. Nis diffoddir nos na dydd; ei mwg a ddring byth: o genhedlaeth i genhedlaeth y diffeithir hi; ni bydd cyniweirydd trwyddi byth bythoedd.

11. Y pelican hefyd a'r draenog a'i meddianna; y dylluan a'r gigfran a drigant ynddi; ac efe a estyn arni linyn anhrefn, a meini gwagedd.

12. Ei phendefigion hi a alwant i'r frenhiniaeth, ond ni bydd yr un yno, a'i holl dywysogion hi fyddant ddiddim.

Darllenwch bennod gyflawn Eseia 34