Hen Destament

Testament Newydd

Eseia 33:7-18 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

7. Wele, eu rhai dewrion a waeddant oddi allan: cenhadon heddwch a wylant yn chwerw.

8. Aeth y priffyrdd yn ddisathr, darfu cyniweirydd llwybr: diddymodd y cyfamod, diystyrodd y dinasoedd, ni wnaeth gyfrif o ddynion.

9. Galarodd a llesgaodd y ddaear; cywilyddiodd Libanus, a thorrwyd ef; Saron a aeth megis anialwch, ysgydwyd Basan hefyd a Charmel.

10. Cyfodaf yn awr, medd yr Arglwydd: ymddyrchafaf weithian; ymgodaf bellach.

11. Chwi a ymddygwch us, ac a esgorwch ar sofl; eich anadl fel tân a'ch ysa chwi.

12. A'r bobloedd fyddant fel llosgfa calch, fel drain wedi eu torri y llosgir hwy yn tân.

13. Gwrandewch, belledigion, yr hyn a wneuthum; a gwybyddwch, gymdogion, fy nerth.

14. Pechaduriaid a ofnasant yn Seion, dychryn a ddaliodd y rhagrithwyr: pwy ohonom a drig gyda'r tân ysol? pwy ohonom a breswylia gyda llosgfeydd tragwyddol?

15. Yr hwn a rodia mewn cyfiawnder, ac a draetha uniondeb, a wrthyd elw trawster, a ysgydwo ei law rhag derbyn gwobr, a gaeo ei glust rhag clywed celanedd, ac a gaeo ei lygaid rhag edrych ar ddrygioni;

16. Efe a breswylia yr uchelderau; cestyll y creigiau fydd ei amddiffynfa ef: ei fara a roddir iddo, ei ddwfr fydd sicr.

17. Dy lygaid a welant y brenin yn ei degwch: gwelant y tir pell.

18. Dy galon a fyfyria ofn; pa le y mae yr ysgrifennydd? pa le y mae y trysorwr? pa le y mae rhifwr y tyrau?

Darllenwch bennod gyflawn Eseia 33