Hen Destament

Testament Newydd

Eseia 33:15-23 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

15. Yr hwn a rodia mewn cyfiawnder, ac a draetha uniondeb, a wrthyd elw trawster, a ysgydwo ei law rhag derbyn gwobr, a gaeo ei glust rhag clywed celanedd, ac a gaeo ei lygaid rhag edrych ar ddrygioni;

16. Efe a breswylia yr uchelderau; cestyll y creigiau fydd ei amddiffynfa ef: ei fara a roddir iddo, ei ddwfr fydd sicr.

17. Dy lygaid a welant y brenin yn ei degwch: gwelant y tir pell.

18. Dy galon a fyfyria ofn; pa le y mae yr ysgrifennydd? pa le y mae y trysorwr? pa le y mae rhifwr y tyrau?

19. Ni chei weled pobl greulon, pobl o iaith ddyfnach nag a ddeallech di, neu floesg dafod, fel na ddeallech.

20. Gwêl Seion, dinas ein cyfarfod: dy lygaid a welant Jerwsalem, y breswylfa lonydd, y babell ni thynnir i lawr, ac ni syflir un o'i hoelion byth, ac ni thorrir un o'i rhaffau.

21. Eithr yr Arglwydd ardderchog fydd yno i ni, yn fangre afonydd a ffrydiau llydain: y rhwyflong nid â trwyddo, a llong odidog nid â drosto.

22. Canys yr Arglwydd yw ein barnwr, yr Arglwydd yw ein deddfwr, yr Arglwydd yw ein brenin; efe a'n ceidw.

23. Gollyngasant dy raffau, ni chadarnhasant eu hwylbren yn iawn, ni thaenasant yr hwyl; yna y rhennir ysglyfaeth ysbail fawr, y cloffion a ysglyfaethant yr ysglyfaeth.

Darllenwch bennod gyflawn Eseia 33