Hen Destament

Testament Newydd

Eseia 30:24-33 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

24. Dy ychen hefyd a'th asynnod, y rhai a lafuriant y tir, a borant ebran pur, yr hwn a nithiwyd â gwyntyll ac â gogr.

25. Bydd hefyd ar bob mynydd uchel, ac ar bob bryn dyrchafedig, afonydd a ffrydiau dyfroedd, yn nydd y lladdfa fawr, pan syrthio y tyrau.

26. A bydd llewyrch y lleuad fel llewyrch yr haul, a llewyrch yr haul fydd saith mwy, megis llewyrch saith niwrnod, yn y dydd y rhwyma yr Arglwydd friw ei bobl, ac yr iachao archoll eu dyrnod hwynt.

27. Wele enw yr Arglwydd yn dyfod o bell, yn llosgi gan ei ddigofaint ef, a'i faich sydd drwm; ei wefusau a lanwyd o ddicter, a'i dafod sydd megis tân ysol.

28. Ei anadl hefyd, megis afon lifeiriol, a gyrraedd hyd hanner y gwddf, i nithio'r cenhedloedd â gogr oferedd; a bydd ffrwyn yng ngenau y bobloedd, yn eu gyrru ar gyfeiliorn.

29. Y gân fydd gennych megis y noswaith y sancteiddir uchel ŵyl; a llawenydd calon, megis pan elo un â phibell i fyned i fynydd yr Arglwydd, at Gadarn yr Israel.

30. A'r Arglwydd a wna glywed ardderchowgrwydd ei lais, ac a ddengys ddisgyniad ei fraich, mewn dicter llidiog, ac â fflam dân ysol, â gwasgarfa, ac â thymestl, ac â cherrig cenllysg.

31. Canys â llais yr Arglwydd y distrywir Assur, yr hwn a drawai â'r wialen.

32. A pha le bynnag yr elo y wialen ddiysgog, yr hon a esyd yr Arglwydd arno ef, gyda thympanau a thelynau y bydd: ac â rhyfel tost yr ymladd efe yn ei erbyn.

33. Canys darparwyd Toffet er doe, ie, paratowyd hi i'r brenin: efe a'i dyfnhaodd hi, ac a'i ehangodd: ei chyneuad sydd dân a choed lawer; anadl yr Arglwydd, megis afon o frwmstan, sydd yn ei hennyn hi.

Darllenwch bennod gyflawn Eseia 30