Hen Destament

Testament Newydd

Eseia 3:15-22 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

15. Beth sydd i chwi a guroch ar fy mhobl, ac a faloch ar wynebau y tlodion? medd Arglwydd Dduw y lluoedd.

16. A'r Arglwydd a ddywedodd, Oherwydd balchïo o ferched Seion, a rhodio â gwddf estynedig, ac â llygaid gwamal, gan rodio a rhygyngu wrth gerdded, a thrystio â'u traed:

17. Am hynny y clafra yr Arglwydd gorunau merched Seion; a'r Arglwydd a ddinoetha eu gwarthle hwynt.

18. Yn y dydd hwnnw y tyn yr Arglwydd ymaith addurn yr esgidiau, y rhwydwaith hefyd, a'r lloerawg wisgoedd,

19. Y cadwynau, a'r breichledau, a'r moledau,

20. Y penguwch, ac addurn y coesau, a'r ysnodennau, a'r dwyfronegau, a'r clustlysau,

21. Y modrwyau, ac addurn y trwyn,

22. Y gwisgoedd symudliw, a'r mentyll, a'r misyrnau, a'r crychnodwyddau,

Darllenwch bennod gyflawn Eseia 3