Hen Destament

Testament Newydd

Eseia 29:7-22 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

7. Yna y bydd tyrfa yr holl genhedloedd y rhai a ryfelant yn erbyn Ariel, fel breuddwyd gweledigaeth nos, sef y rhai oll a ymladdant yn ei herbyn hi a'i hamddiffynfa, ac a warchaeant arni.

8. Ie, bydd megis newynog a freuddwydio, ac wele ef yn bwyta; a phan ddeffrô, gwag fydd ei enaid: ac megis y sychedig a freuddwydio, ac wele ef yn yfed; a phan ddeffrô, wele ef yn ddiffygiol, a'i enaid yn chwennych diod: felly y bydd tyrfa yr holl genhedloedd a lueddant yn erbyn mynydd Seion.

9. Arefwch, a rhyfeddwch; bloeddiwch, a gwaeddwch: meddwasant, ac nid trwy win; penfeddwasant, ac nid trwy ddiod gadarn.

10. Canys tywalltodd yr Arglwydd arnoch ysbryd trymgwsg, ac a gaeodd eich llygaid chwi: eich proffwydi, a'ch penaethiaid, y gweledyddion, a orchuddiodd efe.

11. A gweledigaeth pob un ohonynt sydd i chwi fel geiriau llyfr seliedig, yr hwn os rhoddant ef at un a fedr ar lyfr, gan ddywedyd, Darllen hwn, atolwg: yna y dywed, Ni allaf; canys seliwyd ef.

12. Os rhoddir y llyfr at yr hwn ni fedr ar lyfr, gan ddywedyd, Darllen hwn, atolwg: yna y dywed, Ni fedraf ar lyfr.

13. Am hynny y dywedodd yr Arglwydd, Oherwydd bod y bobl hyn yn nesáu ataf â'u genau, ac yn fy anrhydeddu â'u gwefusau, a phellhau eu calon oddi wrthyf, a bod eu hofn tuag ataf fi wedi ei ddysgu allan o athrawiaeth dynion;

14. Am hynny wele fi yn myned rhagof i wneuthur yn rhyfedd ymysg y bobl hyn, sef gwyrthiau a rhyfeddod: canys difethir doethineb eu doethion hwynt, a deall eu rhai deallgar hwynt a ymguddia.

15. Gwae y rhai a ddyfngeisiant i guddio eu cyngor oddi wrth yr Arglwydd, ac y mae eu gweithredoedd mewn tywyllwch, ac a ddywedant, Pwy a'n gwêl ni? a phwy a'n hedwyn?

16. Diau fel clai crochenydd y cyfrifir eich trofeydd chwi. Canys a ddywed y gwaith am y gweithydd, Ni'm gwnaeth i? neu a ddywed y peth a luniwyd am yr hwn a'i lluniodd, Nid yw ddeallus?

17. Onid ychydig bach fydd eto hyd oni throir Libanus yn ddoldir, a'r doldir a gyfrifir yn goed?

18. A'r dydd hwnnw y rhai byddar a glywant eiriau y llyfr, a llygaid y deillion a welant allan o niwl a thywyllwch.

19. A'r rhai llariaidd a chwanegant lawenychu yn yr Arglwydd; a'r dynion tlodion a ymhyfrydant yn Sanct Israel.

20. Canys darfu am yr ofnadwy, a difethwyd y gwatwarus, a'r rhai oll a wyliant am anwiredd a dorrir ymaith;

21. Y rhai a wnânt ddyn yn droseddwr oherwydd gair, ac a osodant faglau i'r hwn a geryddo yn y porth, ac a wnânt i'r cyfiawn ŵyro am beth coeg.

22. Am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd, yr hwn a waredodd Abraham, am dŷ Jacob, Weithian ni chywilyddir Jacob, ac ni lasa ei wyneb ef.

Darllenwch bennod gyflawn Eseia 29