Hen Destament

Testament Newydd

Eseia 29:1-11 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Gwae Ariel, Ariel, y ddinas y trigodd Dafydd ynddi! ychwanegwch flwyddyn at flwyddyn; lladdant ebyrth.

2. Eto mi a gyfyngaf ar Ariel, a bydd galar a griddfan; a hi a fydd i mi fel Ariel.

3. A gwersyllaf yn grwn i'th erbyn, ac a warchaeaf i'th erbyn mewn gwarchdwr, ac a gyfodaf wrthglawdd yn dy erbyn.

4. A thi a ostyngir; o'r ddaear y lleferi, ac o'r llwch y bydd isel dy leferydd; dy lais fydd hefyd o'r ddaear fel llais swynwr, a'th ymadrodd a hustyng o'r llwch.

5. A thyrfa dy ddieithriaid fydd fel llwch mân, a thyrfa'r cedyrn fel peiswyn yn myned heibio; ie, bydd yn ddisymwth ddiatreg.

6. Oddi wrth Arglwydd y lluoedd y gofwyir trwy daranau, a thrwy ddaeargryn, a thwrf mawr, trwy gorwynt, a thymestl, a fflam dân ysol.

7. Yna y bydd tyrfa yr holl genhedloedd y rhai a ryfelant yn erbyn Ariel, fel breuddwyd gweledigaeth nos, sef y rhai oll a ymladdant yn ei herbyn hi a'i hamddiffynfa, ac a warchaeant arni.

8. Ie, bydd megis newynog a freuddwydio, ac wele ef yn bwyta; a phan ddeffrô, gwag fydd ei enaid: ac megis y sychedig a freuddwydio, ac wele ef yn yfed; a phan ddeffrô, wele ef yn ddiffygiol, a'i enaid yn chwennych diod: felly y bydd tyrfa yr holl genhedloedd a lueddant yn erbyn mynydd Seion.

9. Arefwch, a rhyfeddwch; bloeddiwch, a gwaeddwch: meddwasant, ac nid trwy win; penfeddwasant, ac nid trwy ddiod gadarn.

10. Canys tywalltodd yr Arglwydd arnoch ysbryd trymgwsg, ac a gaeodd eich llygaid chwi: eich proffwydi, a'ch penaethiaid, y gweledyddion, a orchuddiodd efe.

11. A gweledigaeth pob un ohonynt sydd i chwi fel geiriau llyfr seliedig, yr hwn os rhoddant ef at un a fedr ar lyfr, gan ddywedyd, Darllen hwn, atolwg: yna y dywed, Ni allaf; canys seliwyd ef.

Darllenwch bennod gyflawn Eseia 29