Hen Destament

Testament Newydd

Eseia 27:1-13 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Ydydd hwnnw yr ymwêl yr Arglwydd â'i gleddyf caled, mawr, a chadarn, â lefiathan y sarff hirbraff, ie, â lefiathan y sarff dorchog: ac efe a ladd y ddraig sydd yn y môr.

2. Yn y dydd hwnnw cenwch iddi, Gwinllan y gwin coch.

3. Myfi yr Arglwydd a'i ceidw; ar bob moment y dyfrhaf hi: cadwaf hi nos a dydd, rhag i neb ei drygu.

4. Nid oes lidiowgrwydd ynof: pwy a osodai fieri a drain yn fy erbyn mewn rhyfel? myfi a awn trwyddynt, mi a'u llosgwn hwynt ynghyd.

5. Neu ymafled yn fy nerth i, fel y gwnelo heddwch â mi, ac efe a wna heddwch â mi.

6. Efe a wna i hiliogaeth Jacob wreiddio; Israel a flodeua, ac a flaendardda; a hwy a lanwant wyneb y byd â chnwd.

7. A drawodd efe ef fel y trawodd y rhai a'i trawsai ef? a laddwyd ef fel lladdfa ei laddedigion ef?

8. Wrth fesur, pan êl allan, yr ymddadlau ag ef: y mae yn atal ei wynt garw ar ddydd dwyreinwynt.

9. Am hynny trwy hyn y glanheir anwiredd Jacob; a dyna'r holl ffrwyth, tynnu ymaith ei bechod: pan wnelo efe holl gerrig yr allor fel cerrig calch briwedig, ni saif y llwyni na'r delwau.

10. Eto y ddinas gadarn fydd unig, a'r annedd wedi ei adael, a'i wrthod megis yn anialwch: yno y pawr y llo, ac y gorwedd, ac y difa ei blagur hi.

11. Pan wywo ei brig hi, hwy a dorrir: gwragedd a ddaw, ac a'i llosgant hi; canys nid pobl ddeallgar ydynt: am hynny yr hwn a'u gwnaeth ni thosturia wrthynt, a'r hwn a'u lluniodd ni thrugarha wrthynt.

12. A'r dydd hwnnw y bydd i'r Arglwydd ddyrnu, o ffrwd yr afon hyd afon yr Aifft: a chwi feibion Israel a gesglir bob yn un ac un.

13. Ac yn y dydd hwnnw yr utgenir ag utgorn mawr; yna y daw y rhai ar ddarfod amdanynt yn nhir Asyria, a'r rhai a wasgarwyd yn nhir yr Aifft, ac a addolant yr Arglwydd yn y mynydd sanctaidd yn Jerwsalem.

Darllenwch bennod gyflawn Eseia 27