Hen Destament

Testament Newydd

Eseia 26:3-10 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

3. Ti a gedwi mewn tangnefedd heddychol yr hwn sydd â'i feddylfryd arnat ti; am ei fod yn ymddiried ynot.

4. Ymddiriedwch yn yr Arglwydd byth; oherwydd yn yr Arglwydd Dduw y mae cadernid tragwyddol.

5. Canys efe a ostwng breswylwyr yr uchelder; tref uchel a ostwng efe: efe a'i darostwng hi i'r llawr, ac a'i bwrw hi i'r llwch.

6. Troed a'i sathr hi, sef traed y trueiniaid, a chamre'r tlodion.

7. Uniondeb yw llwybr y cyfiawn; tydi yr uniawn wyt yn pwyso ffordd y cyfiawn.

8. Ar lwybr dy farnedigaethau hefyd y'th ddisgwyliasom, Arglwydd; dymuniad ein henaid sydd at dy enw, ac at dy goffadwriaeth.

9. A'm henaid y'th ddymunais liw nos; â'm hysbryd hefyd o'm mewn y'th foregeisiaf: canys preswylwyr y byd a ddysgant gyfiawnder, pan fyddo dy farnedigaethau ar y ddaear.

10. Gwneler cymwynas i'r annuwiol, eto ni ddysg efe gyfiawnder; yn nhir uniondeb y gwna ar gam, ac ni wêl uchelder yr Arglwydd.

Darllenwch bennod gyflawn Eseia 26