1. Ydydd hwnnw y cenir y gân hon yn nhir Jwda: Dinas gadarn sydd i ni; Duw a esyd iachawdwriaeth yn gaerau ac yn rhagfur.
2. Agorwch y pyrth, fel y dêl y genedl gyfiawn i mewn, yr hon a geidw wirionedd.
3. Ti a gedwi mewn tangnefedd heddychol yr hwn sydd â'i feddylfryd arnat ti; am ei fod yn ymddiried ynot.
4. Ymddiriedwch yn yr Arglwydd byth; oherwydd yn yr Arglwydd Dduw y mae cadernid tragwyddol.
5. Canys efe a ostwng breswylwyr yr uchelder; tref uchel a ostwng efe: efe a'i darostwng hi i'r llawr, ac a'i bwrw hi i'r llwch.
6. Troed a'i sathr hi, sef traed y trueiniaid, a chamre'r tlodion.
7. Uniondeb yw llwybr y cyfiawn; tydi yr uniawn wyt yn pwyso ffordd y cyfiawn.
8. Ar lwybr dy farnedigaethau hefyd y'th ddisgwyliasom, Arglwydd; dymuniad ein henaid sydd at dy enw, ac at dy goffadwriaeth.
9. A'm henaid y'th ddymunais liw nos; â'm hysbryd hefyd o'm mewn y'th foregeisiaf: canys preswylwyr y byd a ddysgant gyfiawnder, pan fyddo dy farnedigaethau ar y ddaear.
10. Gwneler cymwynas i'r annuwiol, eto ni ddysg efe gyfiawnder; yn nhir uniondeb y gwna ar gam, ac ni wêl uchelder yr Arglwydd.
11. Ni welant, Arglwydd, pan ddyrchafer dy law: eithr cânt weled, a chywilyddiant am eu heiddigedd wrth y bobl; ie, tân dy elynion a'u hysa hwynt.
12. Arglwydd, ti a drefni i ni heddwch: canys ti hefyd a wnaethost ein holl weithredoedd ynom ni.