7. Ac efe a ddifa yn y mynydd hwn y gorchudd sydd yn gorchuddio yr holl bobloedd, a'r llen yr hon a daenwyd ar yr holl genhedloedd.
8. Efe a lwnc angau mewn buddugoliaeth; a'r Arglwydd Dduw a sych ymaith ddagrau oddi ar bob wyneb; ac efe a dynn ymaith warthrudd ei bobl oddi ar yr holl ddaear: canys yr Arglwydd a'i llefarodd.
9. A'r dydd hwnnw y dywedir, Wele, dyma ein Duw ni; gobeithiasom ynddo, ac efe a'n ceidw: dyma yr Arglwydd; gobeithiasom ynddo, gorfoleddwn a llawenychwn yn ei iachawdwriaeth ef.
10. Canys llaw yr Arglwydd a orffwys yn y mynydd hwn, a Moab a sethrir tano, fel sathru gwellt mewn tomen.
11. Ac efe a estyn ei ddwylo yn eu canol hwy, fel yr estyn nofiedydd ei ddwylo i nofio; ac efe a ostwng eu balchder hwynt ynghyd ag ysbail eu dwylo.
12. Felly y gogwydda, y gostwng, ac y bwrw efe i lawr hyd y llwch, gadernid uchelder dy gaerau.