Hen Destament

Testament Newydd

Eseia 25:1-8 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. O Arglwydd, fy Nuw ydwyt; dyrchafaf di, moliannaf dy enw; canys gwnaethost ryfeddodau: dy gynghorion er ys talm sydd wirionedd a sicrwydd.

2. Canys gosodaist ddinas yn bentwr, a thref gadarn yn garnedd; palas dieithriaid, fel na byddo ddinas; nid adeiledir hi byth.

3. Am hynny pobl nerthol a'th ogonedda, dinas y cenhedloedd ofnadwy a'th arswyda:

4. Canys buost nerth i'r tlawd, a chadernid i'r anghenog yn ei gyfyngder, yn nodded rhag tymestl, yn gysgod rhag gwres, pan oedd gwynt y cedyrn fel tymestl yn erbyn mur.

5. Fel gwres mewn sychder y darostyngi dwrf dieithriaid; sef gwres â chysgod cwmwl; darostyngir cangen yr ofnadwy.

6. Ac Arglwydd y lluoedd a wna i'r holl bobloedd yn y mynydd hwn wledd o basgedigion, gwledd o loyw‐win; o basgedigion breision, a gloyw‐win puredig.

7. Ac efe a ddifa yn y mynydd hwn y gorchudd sydd yn gorchuddio yr holl bobloedd, a'r llen yr hon a daenwyd ar yr holl genhedloedd.

8. Efe a lwnc angau mewn buddugoliaeth; a'r Arglwydd Dduw a sych ymaith ddagrau oddi ar bob wyneb; ac efe a dynn ymaith warthrudd ei bobl oddi ar yr holl ddaear: canys yr Arglwydd a'i llefarodd.

Darllenwch bennod gyflawn Eseia 25