Hen Destament

Testament Newydd

Eseia 25:1-3 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. O Arglwydd, fy Nuw ydwyt; dyrchafaf di, moliannaf dy enw; canys gwnaethost ryfeddodau: dy gynghorion er ys talm sydd wirionedd a sicrwydd.

2. Canys gosodaist ddinas yn bentwr, a thref gadarn yn garnedd; palas dieithriaid, fel na byddo ddinas; nid adeiledir hi byth.

3. Am hynny pobl nerthol a'th ogonedda, dinas y cenhedloedd ofnadwy a'th arswyda:

Darllenwch bennod gyflawn Eseia 25