Hen Destament

Testament Newydd

Eseia 24:6-22 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

6. Am hynny melltith a ysodd y tir, a'r rhai oedd yn trigo ynddo a anrheithiwyd; am hynny preswylwyr y tir a losgwyd, ac ychydig ddynion a adawyd.

7. Galarodd y gwin, llesgaodd y winwydden, y rhai llawen galon oll a riddfanasant.

8. Darfu llawenydd y tympanau, peidiodd trwst y gorfoleddwyr, darfu hyfrydwch y delyn.

9. Nid yfant win dan ganu; chwerw fydd diod gref i'r rhai a'i hyfant.

10. Drylliwyd y ddinas wagedd; caewyd pob tŷ, fel na ddeler i mewn.

11. Y mae llefain am win yn yr heolydd; tywyllodd pob llawenydd, hyfrydwch y tir a fudodd ymaith.

12. Yn y ddinas y gadawyd anghyfanheddrwydd, ag anrhaith hefyd y dryllir y porth.

13. Oblegid bydd o fewn y tir, yng nghanol y bobloedd, megis ysgydwad olewydden, ac fel grawn lloffa pan ddarffo cynhaeaf y gwin.

14. Hwy a ddyrchafant eu llef, ac a ganant; oherwydd godidowgrwydd yr Arglwydd, bloeddiant o'r môr.

15. Am hynny gogoneddwch yr Arglwydd yn y dyffrynnoedd, enw Arglwydd Dduw Israel yn ynysoedd y môr.

16. O eithafoedd y ddaear y clywsom ganiadau, sef gogoniant i'r cyfiawn. A dywedais, O fy nghulni, O fy nghulni, gwae fi! y rhai anffyddlon a wnaethant yn anffyddlon, ie, gwnaeth yr anffyddlon o'r fath anffyddlonaf.

17. Dychryn, a ffos, a magl fydd arnat ti, breswylydd y ddaear.

18. A'r hwn a ffy rhag trwst y dychryn, a syrth yn y ffos; a'r hwn a gyfodo o ganol y ffos, a ddelir yn y fagl: oherwydd ffenestri o'r uchelder a agorwyd, a seiliau y ddaear sydd yn crynu.

19. Gan ddryllio yr ymddrylliodd y ddaear, gan rwygo yr ymrwygodd y ddaear, gan symud yr ymsymudodd y ddaear.

20. Y ddaear gan symud a ymsymud fel meddwyn, ac a ymsigla megis bwth; a'i chamwedd fydd drwm arni; a hi a syrth, ac ni chyfyd mwy.

21. Yr amser hwnnw yr ymwêl yr Arglwydd â llu yr uchel, yr hwn sydd yn yr uchelder, ac â brenhinoedd y ddaear ar y ddaear.

22. A chesglir hwynt fel y cesglir carcharorion mewn daeardy, a hwy a garcherir mewn carchar, ac ymhen llawer o ddyddiau yr ymwelir â hwynt.

Darllenwch bennod gyflawn Eseia 24