Hen Destament

Testament Newydd

Eseia 24:1-9 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Wele yr Arglwydd yn gwneuthur y ddaear yn wag, ac yn ei difwyno hi; canys efe a ddadymchwel ei hwyneb hi ac a wasgar ei thrigolion.

2. Yna bydd yr un ffunud i'r bobl ac i'r offeiriad, i'r gwas ac i'w feistr, i'r llawforwyn ac i'w meistres, i'r prynydd ac i'r gwerthydd, i'r hwn a roddo ac i'r hwn a gymero echwyn, i'r hwn a gymero log ac i'r hwn a dalo log iddo.

3. Gan wacáu y gwacéir, a chan ysbeilio yr ysbeilir y wlad; canys yr Arglwydd a lefarodd y gair hwn.

4. Galarodd a diflannodd y ddaear, llesgaodd a dadwinodd y byd, dihoenodd pobl feilchion y ddaear.

5. Y ddaear hefyd a halogwyd dan ei phreswylwyr: canys troseddasant y cyfreithiau, newidiasant y deddfau, diddymasant y cyfamod tragwyddol.

6. Am hynny melltith a ysodd y tir, a'r rhai oedd yn trigo ynddo a anrheithiwyd; am hynny preswylwyr y tir a losgwyd, ac ychydig ddynion a adawyd.

7. Galarodd y gwin, llesgaodd y winwydden, y rhai llawen galon oll a riddfanasant.

8. Darfu llawenydd y tympanau, peidiodd trwst y gorfoleddwyr, darfu hyfrydwch y delyn.

9. Nid yfant win dan ganu; chwerw fydd diod gref i'r rhai a'i hyfant.

Darllenwch bennod gyflawn Eseia 24