Hen Destament

Testament Newydd

Eseia 23:12-18 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

12. Ac efe a ddywedodd, Ni chei orfoleddu mwyach, yr orthrymedig forwyn, merch Sidon; cyfod, dos i Chittim; yno chwaith ni bydd i ti lonyddwch.

13. Wele dir y Caldeaid; nid oedd y bobl hyn, nes i Assur ei sylfaenu hi i drigolion yr anialwch: dyrchafasant ei thyrau, cyfodasant ei phalasau; ac efe a'i tynnodd hi i lawr.

14. Llongau Tarsis, udwch; canys anrheithiwyd eich nerth.

15. A'r dydd hwnnw yr anghofir Tyrus ddeng mlynedd a thrigain, megis dyddiau un brenin: ymhen y deng mlynedd a thrigain y cân Tyrus megis putain.

16. Cymer y delyn, amgylchyna y ddinas, ti butain anghofiedig: cân gerdd yn dda: cân lawer fel y'th gofier.

17. Ac ymhen y deng mlynedd a thrigain yr Arglwydd a ymwêl â Thyrus, a hi a ddychwel at ei helw, ac a buteinia â holl deyrnasoedd y byd ar wyneb y ddaear.

18. Yna y bydd ei marchnad a'i helw yn sancteiddrwydd i'r Arglwydd: ni thrysorir ac nis cedwir: canys eiddo y rhai a drigant o flaen yr Arglwydd fydd ei marsiandïaeth, i fwyta yn ddigonol, ac yn ddillad parhaus.

Darllenwch bennod gyflawn Eseia 23