Hen Destament

Testament Newydd

Eseia 22:10-24 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

10. Rhifasoch hefyd dai Jerwsalem, a thynasoch y tai i lawr i gadarnhau'r mur.

11. A rhwng y ddau fur y gwnaethoch lyn i ddyfroedd yr hen bysgodlyn: ond nid edrychasoch am ei wneuthurwr, nid ystyriasoch yr hwn a'i lluniodd ef er ys talm.

12. A'r dydd hwnnw y gwahoddodd Arglwydd Dduw y lluoedd rai i wylofain, ac i alarnad, ac i foeledd, ac i ymwregysu â sachliain:

13. Ac wele lawenydd a gorfoledd, gan ladd gwartheg, a lladd defaid, gan fwyta cig, ac yfed gwin: bwytawn ac yfwn; canys yfory, meddant, y byddwn feirw.

14. A datguddiwyd hyn lle y clywais gan Arglwydd y lluoedd, Yn ddiau ni lanheir yr anwiredd hyn, hyd oni byddoch feirw, medd Arglwydd Dduw y lluoedd.

15. Fel hyn y dywed Arglwydd Dduw y lluoedd, Cerdda, dos at y trysorydd hwn, sef at Sebna, yr hwn sydd benteulu, a dywed,

16. Beth sydd i ti yma? a phwy sydd gennyt ti yma, pan drychaist i ti yma fedd, fel yr hwn a drychai ei fedd yn uchel, ac a naddai iddo ei hun drigfa mewn craig?

17. Wele yr Arglwydd yn dy fudo di â chaethiwed tost, a chan wisgo a'th wisg di.

18. Gan dreiglo y'th dreigla di, fel treiglo pêl i wlad eang; yno y byddi farw, ac yno y bydd cerbydau dy ogoniant yn warth i dŷ dy feistr.

19. Yna y'th yrraf o'th sefyllfa, ac o'th sefyllfa y dinistria efe di.

20. Ac yn y dydd hwnnw y galwaf ar fy ngwas Eliacim mab Hilceia:

21. A'th wisg di hefyd y gwisgaf ef, ac â'th wregys di y nerthaf ef; a than ei law ef y rhoddaf dy lywodraeth di: ac efe a fydd yn dad i breswylwyr Jerwsalem, ac i dŷ Jwda.

22. Rhoddaf hefyd agoriad tŷ Dafydd ar ei ysgwydd ef: yna yr egyr efe, ac ni bydd a gaeo; ac efe a gae, ac ni bydd a agoro.

23. A mi a'i sicrhaf ef fel hoel mewn man sicr; ac efe a fydd yn orseddfa gogoniant i dŷ ei dad.

24. Ac arno ef y crogant holl ogoniant tŷ ei dad, hil ac epil; yr holl fân lestri; o'r llestri meiliau, hyd yr holl offer cerdd.

Darllenwch bennod gyflawn Eseia 22