Hen Destament

Testament Newydd

Eseia 21:2-14 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

2. Gweledigaeth galed a fynegwyd i mi. Yr anffyddlon sydd yn anffyddloni, a'r dinistrydd sydd yn dinistrio. Elam, dring; Media, gwarchae; gwneuthum i'w holl riddfan hi ddarfod.

3. Am hynny y llanwyd fy llwynau o ddolur; gwewyr a'm daliasant fel gwewyr gwraig yn esgor; syrthiais wrth ei glywed, brawychais wrth ei weled.

4. Cyfeiliornodd fy nghalon, braw a'm dychrynodd; efe a drodd fy nghyfnos ddymunol yn ddychryn i mi.

5. Paratoa y bwrdd, gwylia yn y ddisgwylfa, bwyta, yf; cyfodwch, dywysogion; eneiniwch y darian.

6. Oherwydd fel hyn y dywedodd yr Arglwydd wrthyf, Dos, gosod wyliedydd, myneged yr hyn a welo.

7. Ac efe a welodd gerbyd, a dau o wŷr meirch, cerbyd asynnod, a cherbyd camelod; ac efe a ystyriodd yn ddyfal iawn dros ben.

8. Ac efe a lefodd, Llew: fy arglwydd, ar y ddisgwylfa yr wyf fi yn sefyll liw dydd yn wastad, ac ar fy nghadwriaeth yr ydwyf yn sefyll bob nos.

9. Ac wele, yma y mae yn dyfod gerbyd o wŷr, a dau o wŷr meirch. Ac efe a atebodd ac a ddywedodd, Syrthiodd, syrthiodd Babilon; a holl ddelwau cerfiedig ei duwiau hi a ddrylliodd efe i lawr.

10. O fy nyrniad, a chnwd fy llawr dyrnu! yr hyn a glywais gan Arglwydd y lluoedd, Duw Israel, a fynegais i chwi.

11. Baich Duma, Arnaf fi y mae yn galw o Seir, Y gwyliedydd, beth am y nos? y gwyliedydd, beth am y nos? y gwyliedydd, beth am y nos?

12. Dywedodd y gwyliedydd, Daeth y bore a'r nos hefyd: os ceisiwch, ceisiwch: dychwelwch, deuwch.

13. Baich ar Arabia. Yn y coed yn Arabia y lletywch chwi, fforddolion Dedanim.

14. Dygwch ddyfroedd i gyfarfod â'r sychedig, trigolion tir Tema, achubwch flaen y crwydrus â'i fara.

Darllenwch bennod gyflawn Eseia 21