Hen Destament

Testament Newydd

Eseia 21:13-17 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

13. Baich ar Arabia. Yn y coed yn Arabia y lletywch chwi, fforddolion Dedanim.

14. Dygwch ddyfroedd i gyfarfod â'r sychedig, trigolion tir Tema, achubwch flaen y crwydrus â'i fara.

15. Oherwydd rhag cleddyfau y ffoesant, rhag y cleddyf noeth, a rhag y bwa anelog, a rhag trymder rhyfel.

16. Oherwydd fel hyn y dywedodd yr Arglwydd wrthyf fi, Cyn pen blwyddyn, o fath blwyddyn gwas cyflog, y derfydd hefyd holl anrhydedd Cedar:

17. A'r gweddill o rifedi saethyddion gwŷr cedyrn meibion Cedar, a leiheir: canys Arglwydd Dduw Israel a'i dywedodd.

Darllenwch bennod gyflawn Eseia 21