Hen Destament

Testament Newydd

Eseia 21:1-9 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Baich anialwch y môr. Fel y mae corwynt yn y deau yn myned trwodd; felly y daw o'r anialwch, o wlad ofnadwy.

2. Gweledigaeth galed a fynegwyd i mi. Yr anffyddlon sydd yn anffyddloni, a'r dinistrydd sydd yn dinistrio. Elam, dring; Media, gwarchae; gwneuthum i'w holl riddfan hi ddarfod.

3. Am hynny y llanwyd fy llwynau o ddolur; gwewyr a'm daliasant fel gwewyr gwraig yn esgor; syrthiais wrth ei glywed, brawychais wrth ei weled.

4. Cyfeiliornodd fy nghalon, braw a'm dychrynodd; efe a drodd fy nghyfnos ddymunol yn ddychryn i mi.

5. Paratoa y bwrdd, gwylia yn y ddisgwylfa, bwyta, yf; cyfodwch, dywysogion; eneiniwch y darian.

6. Oherwydd fel hyn y dywedodd yr Arglwydd wrthyf, Dos, gosod wyliedydd, myneged yr hyn a welo.

7. Ac efe a welodd gerbyd, a dau o wŷr meirch, cerbyd asynnod, a cherbyd camelod; ac efe a ystyriodd yn ddyfal iawn dros ben.

8. Ac efe a lefodd, Llew: fy arglwydd, ar y ddisgwylfa yr wyf fi yn sefyll liw dydd yn wastad, ac ar fy nghadwriaeth yr ydwyf yn sefyll bob nos.

9. Ac wele, yma y mae yn dyfod gerbyd o wŷr, a dau o wŷr meirch. Ac efe a atebodd ac a ddywedodd, Syrthiodd, syrthiodd Babilon; a holl ddelwau cerfiedig ei duwiau hi a ddrylliodd efe i lawr.

Darllenwch bennod gyflawn Eseia 21