Hen Destament

Testament Newydd

Eseia 14:26-32 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

26. Dyma y cyngor a gymerwyd am yr holl ddaear: a dyma y llaw a estynnwyd ar yr holl genhedloedd.

27. Oherwydd Arglwydd y lluoedd a'i bwriadodd, a phwy a'i diddyma? ei law ef hefyd a estynnwyd, a phwy a'i try yn ôl?

28. Yn y flwyddyn y bu farw y brenin Ahas, y bu y baich hwn.

29. Palesteina, na lawenycha di oll, er torri gwialen dy drawydd: oherwydd o wreiddyn y sarff y daw gwiber allan, a'i ffrwyth hi fydd sarff danllyd hedegog.

30. A chynblant y tlodion a ymborthant, a'r rhai anghenus a orweddant mewn diogelwch: a mi a laddaf dy wreiddyn â newyn, yntau a ladd y weddill.

31. Uda, borth; gwaedda, ddinas; Palesteina, ti oll a doddwyd: canys mwg sydd yn dyfod o'r gogledd, ac ni bydd unig yn ei amseroedd nodedig ef.

32. A pha beth a atebir i genhadau y genedl? Seilio o'r Arglwydd Seion, ac y gobeithia trueiniaid ei bobl ef ynddi.

Darllenwch bennod gyflawn Eseia 14