14. Dringaf yn uwch na'r cymylau; tebyg fyddaf i'r Goruchaf.
15. Er hynny i uffern y'th ddisgynnir, i ystlysau y ffos.
16. Y rhai a'th welant a edrychant arnat yn graff, ac a'th ystyriant, gan ddywedyd, Ai dyma y gŵr a wnaeth i'r ddaear grynu, ac a gynhyrfodd deyrnasoedd?
17. A osododd y byd fel anialwch, ac a ddinistriodd ei ddinasoedd, heb ollwng ei garcharorion yn rhydd tuag adref?
18. Holl frenhinoedd y cenhedloedd, ie, hwy oll a orweddasant mewn gogoniant, bob un yn ei dŷ ei hun:
19. Eithr tydi a fwriwyd allan o'th fedd, fel cangen ffiaidd, neu wisg y lladdedigion, y rhai a drywanwyd â chleddyf; y rhai a ddisgynnent i gerrig y ffos, fel celain wedi ei mathru.
20. Ni byddi mewn un bedd â hwynt, oherwydd dy dir a ddifethaist, a'th bobl a leddaist: ni bydd had yr annuwiol enwog byth.
21. Darperwch laddfa i'w feibion ef, am anwiredd eu tadau; rhag codi ohonynt a goresgyn y tir, a llenwi wyneb y byd â dinasoedd.
22. Minnau a gyfodaf yn eu herbyn hwynt, medd Arglwydd y lluoedd, ac a dorraf allan o Babilon enw a gweddill, a mab, ac ŵyr, medd yr Arglwydd:
23. Ac a'i gosodaf hi yn feddiant i aderyn y bwn, ac yn byllau dyfroedd; ysgubaf hi hefyd ag ysgubau distryw, medd Arglwydd y lluoedd.
24. Tyngodd Arglwydd y lluoedd, gan ddywedyd, Diau megis yr amcenais, felly y bydd; ac fel y bwriedais, hynny a saif;
25. Am ddryllio Assur yn fy nhir: canys mathraf ef ar fy mynyddoedd; yna y cilia ei iau ef oddi arnynt, ac y symudir ei faich ef oddi ar eu hysgwyddau hwynt.