Hen Destament

Testament Newydd

Eseia 14:1-11 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Canys yr Arglwydd a dosturia wrth Jacob, ac a ddethol Israel eto, ac a bair iddynt orffwys yn eu tir eu hunain: a'r dieithr a ymgysyllta â hwynt, a hwy a lynant wrth dŷ Jacob.

2. Y bobl hefyd a'u cymer hwynt, ac a'u dygant i'w lle, a thŷ Israel a'u meddianna hwynt yn nhir yr Arglwydd, yn weision ac yn forynion: a hwy a gaethiwant y rhai a'u caethiwodd hwythau, ac a lywodraethant ar eu gorthrymwyr.

3. A bydd, yn y dydd y rhoddo yr Arglwydd lonyddwch i ti oddi wrth dy ofid, ac oddi wrth dy ofn, ac oddi wrth y caethiwed caled y gwasanaethaist ynddo,

4. I ti gymryd y ddihareb hon yn erbyn brenin Babilon, a dywedyd, Pa wedd y peidiodd y gorthrymwr? ac y peidiodd y dref aur?

5. Yr Arglwydd a ddrylliodd ffon yr anwiriaid, a theyrnwialen y llywiawdwyr.

6. Yr hwn sydd yn taro y bobloedd mewn dicllonedd â phla gwastadol, yr hwn sydd yn llywodraethu y cenhedloedd mewn llidiowgrwydd, a erlidir heb neb yn lluddias.

7. Gorffwysodd a llonyddodd yr holl ddaear; canasant o lawenydd.

8. Y ffynidwydd hefyd a chedrwydd Libanus a lawenhasant yn dy erbyn, gan ddywedyd, Er pan orweddaist, nid esgynnodd cymynydd i'n herbyn.

9. Uffern oddi tanodd a gynhyrfodd o'th achos, i gyfarfod â thi wrth dy ddyfodiad: hi a gyfododd y meirw i ti, sef holl dywysogion y ddaear; cyfododd holl frenhinoedd y cenhedloedd o'u gorseddfaoedd.

10. Y rhai hynny oll a lefarant, ac a ddywedant wrthyt, A wanhawyd tithau fel ninnau? a aethost ti yn gyffelyb i ni?

11. Disgynnwyd dy falchder i'r bedd, a thrwst dy nablau: tanat y taenir pryf, pryfed hefyd a'th doant.

Darllenwch bennod gyflawn Eseia 14