Hen Destament

Testament Newydd

Eseia 11:8-13 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

8. A'r plentyn sugno a chwery wrth dwll yr asb; ac ar ffau y wiber yr estyn yr hwn a ddiddyfnwyd ei law.

9. Ni ddrygant ac ni ddifethant yn holl fynydd fy sancteiddrwydd: canys y ddaear a fydd llawn o wybodaeth yr Arglwydd, megis y mae y dyfroedd yn toi y môr.

10. Ac yn y dydd hwnnw y bydd gwreiddyn Jesse, yr hwn a saif yn arwydd i'r bobloedd: ag ef yr ymgais y cenhedloedd: a'i orffwysfa fydd yn ogoniant.

11. Bydd hefyd yn y dydd hwnnw, i'r Arglwydd fwrw eilwaith ei law i feddiannu gweddill ei bobl, y rhai a weddillir gan Asyria, a chan yr Aifft, a chan Pathros, a chan Ethiopia, a chan Elam, a chan Sinar, a chan Hamath, a chan ynysoedd y môr.

12. Ac efe a gyfyd faner i'r cenhedloedd, ac a gynnull grwydraid Israel, ac a gasgl wasgaredigion Jwda o bedair congl y ddaear.

13. Cenfigen Effraim a ymedy hefyd, a gwrthwynebwyr Jwda a dorrir ymaith: ni chenfigenna Effraim wrth Jwda, ac ni chyfynga Jwda ar Effraim.

Darllenwch bennod gyflawn Eseia 11