Hen Destament

Testament Newydd

Eseia 11:1-7 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Yna y daw allan wialen o gyff Jesse; a Blaguryn a dyf o'i wraidd ef.

2. Ac ysbryd yr Arglwydd a orffwys arno ef; ysbryd doethineb a deall, ysbryd cyngor a chadernid, ysbryd gwybodaeth ac ofn yr Arglwydd;

3. Ac a wna ei ddeall ef yn fywiog yn ofn yr Arglwydd: ac nid wrth olwg ei lygaid y barn efe, nac wrth glywed ei glustiau y cerydda efe.

4. Ond efe a farn y tlodion mewn cyfiawnder, ac a argyhoedda dros rai llariaidd y ddaear mewn uniondeb: ac efe a dery y ddaear â gwialen ei enau, ac ag anadl ei wefusau y lladd efe yr anwir.

5. A chyfiawnder fydd gwregys ei lwynau ef, a ffyddlondeb yn wregys ei arennau.

6. A'r blaidd a drig gyda'r oen, a'r llewpard a orwedd gyda'r myn; y llo hefyd, a chenau y llew, a'r anifail bras, fyddant ynghyd, a bachgen bychan a'u harwain.

7. Y fuwch hefyd a'r arth a borant ynghyd; eu llydnod a gydorweddant: y llew, fel yr ych, a bawr wellt.

Darllenwch bennod gyflawn Eseia 11