Hen Destament

Testament Newydd

Eseia 10:3-15 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

3. A pha beth a wnewch yn nydd yr ymweliad, ac yn y distryw a ddaw o bell? at bwy y ffowch am gynhorthwy? a pha le y gadewch eich gogoniant?

4. Hebof fi y crymant dan y carcharorion, a than y rhai a laddwyd y syrthiant. Er hyn oll ni ddychwelodd ei lid ef, ond eto y mae ei law ef yn estynedig.

5. Gwae Assur, gwialen fy llid, a'r ffon yn eu llaw hwynt yw fy nigofaint.

6. At genedl ragrithiol yr anfonaf ef, ac yn erbyn pobl fy nicter y gorchmynnaf iddo ysbeilio ysbail, ac ysglyfaethu ysglyfaeth, a'u gosod hwynt yn sathrfa megis tom yr heolydd.

7. Ond nid felly yr amcana efe, ac nid felly y meddwl ei galon; eithr y mae yn ei fryd ddifetha a thorri ymaith genhedloedd nid ychydig.

8. Canys efe a ddywed, Onid yw fy nhywysogion i gyd yn frenhinoedd?

9. Onid fel Charcemis yw Calno? onid fel Arpad yw Hamath? onid fel Damascus yw Samaria?

10. Megis y cyrhaeddodd fy llaw deyrnasoedd yr eilunod, a'r rhai yr oedd eu delwau cerfiedig yn rhagori ar yr eiddo Jerwsalem a Samaria:

11. Onid megis y gwneuthum i Samaria ac i'w heilunod, felly y gwnaf i Jerwsalem ac i'w delwau hithau?

12. A bydd, pan gyflawno yr Arglwydd ei holl waith ym mynydd Seion, ac yn Jerwsalem, yr ymwelaf â ffrwyth mawredd calon brenin Assur, ac â gogoniant uchelder ei lygaid ef:

13. Canys dywedodd, Trwy nerth fy llaw y gwneuthum hyn, a thrwy fy noethineb; oherwydd doeth ydwyf: ac mi a symudais derfynau pobloedd, a'u trysorau a ysbeiliais, ac a fwriais i'r llawr y trigolion fel gŵr grymus:

14. A'm llaw a gafodd gyfoeth y bobloedd fel nyth; ac megis y cesglir wyau wedi eu gado, y cesglais yr holl ddaear; ac nid oedd a symudai adain, nac a agorai safn, nac a ynganai.

15. A ymffrostia y fwyell yn erbyn yr hwn a gymyno â hi? a ymfawryga y llif yn erbyn yr hwn a'i tynno? megis pe ymddyrchafai y wialen yn erbyn y rhai a'i codai hi i fyny, neu megis pe ymddyrchafai y ffon, fel pe na byddai yn bren.

Darllenwch bennod gyflawn Eseia 10