Hen Destament

Testament Newydd

Eseia 10:26-34 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

26. Ac Arglwydd y lluoedd a gyfyd ffrewyll yn ei erbyn ef, megis lladdfa Midian yng nghraig Oreb: ac fel y bu ei wialen ar y môr, felly y cyfyd efe hi yn ôl ffordd yr Aifft.

27. A bydd yn y dydd hwnnw, y symudir ei faich ef oddi ar dy ysgwydd di, a'i iau ef oddi ar dy war di; a dryllir yr iau, oherwydd yr eneiniad.

28. Daeth at Aiath, tramwyodd i Migron; ym Michmas y rhoddes ei ddodrefn i gadw.

29. Aethant trwy y rhyd, yn Geba y lletyasant: dychrynodd Rama; Gibea Saul a ffoes.

30. Bloeddia â'th lef, merch Galim: pâr ei chlywed hyd Lais, O Anathoth dlawd.

31. Ymbellhaodd Madmena: trigolion Gebim a ymgasglasant i ffoi.

32. Eto y dydd hwnnw y saif efe yn Nob; efe a gyfyd ei law yn erbyn mynydd merch Seion, bryn Jerwsalem.

33. Wele, yr Arglwydd, Arglwydd y lluoedd, yn ysgythru y gangen â dychryn: a'r rhai uchel o gyrff a dorrir ymaith, a'r rhai goruchel a ostyngir.

34. Ac efe a dyr ymaith frysglwyni y coed â haearn; a Libanus trwy un cryf a gwymp.

Darllenwch bennod gyflawn Eseia 10