Hen Destament

Testament Newydd

Eseia 10:18-32 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

18. Gogoniant ei goed hefyd, a'i ddoldir, a ysa efe, enaid a chorff: a byddant megis pan lesmeirio banerwr.

19. A phrennau gweddill ei goed ef a fyddant o rifedi, fel y rhifo plentyn hwynt.

20. A bydd yn y dydd hwnnw, na chwanega gweddill Israel, a'r rhai a ddihangodd o dŷ Jacob, ymgynnal mwyach ar yr hwn a'u trawodd; ond pwysant ar yr Arglwydd, Sanct Israel, mewn gwirionedd.

21. Y gweddill a ddychwel, sef gweddill Jacob, at y Duw cadarn.

22. Canys pe byddai dy bobl di Israel fel tywod y môr, gweddill ohonynt a ddychwel: darfodiad terfynedig a lifa drosodd mewn cyfiawnder.

23. Canys darfodedigaeth, a honno yn derfynedig, a wna Arglwydd Dduw y lluoedd yng nghanol yr holl dir.

24. Am hynny fel hyn y dywed Arglwydd Dduw y lluoedd, Fy mhobl yr hwn a breswyli yn Seion, nac ofna rhag yr Asyriad: â gwialen y'th dery di, ac efe a gyfyd ei ffon i'th erbyn, yn ôl ffordd yr Aifft.

25. Canys eto ychydig bach, ac fe a dderfydd y llid, a'm digofaint yn eu dinistr hwy.

26. Ac Arglwydd y lluoedd a gyfyd ffrewyll yn ei erbyn ef, megis lladdfa Midian yng nghraig Oreb: ac fel y bu ei wialen ar y môr, felly y cyfyd efe hi yn ôl ffordd yr Aifft.

27. A bydd yn y dydd hwnnw, y symudir ei faich ef oddi ar dy ysgwydd di, a'i iau ef oddi ar dy war di; a dryllir yr iau, oherwydd yr eneiniad.

28. Daeth at Aiath, tramwyodd i Migron; ym Michmas y rhoddes ei ddodrefn i gadw.

29. Aethant trwy y rhyd, yn Geba y lletyasant: dychrynodd Rama; Gibea Saul a ffoes.

30. Bloeddia â'th lef, merch Galim: pâr ei chlywed hyd Lais, O Anathoth dlawd.

31. Ymbellhaodd Madmena: trigolion Gebim a ymgasglasant i ffoi.

32. Eto y dydd hwnnw y saif efe yn Nob; efe a gyfyd ei law yn erbyn mynydd merch Seion, bryn Jerwsalem.

Darllenwch bennod gyflawn Eseia 10