Hen Destament

Testament Newydd

Eseia 10:14-22 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

14. A'm llaw a gafodd gyfoeth y bobloedd fel nyth; ac megis y cesglir wyau wedi eu gado, y cesglais yr holl ddaear; ac nid oedd a symudai adain, nac a agorai safn, nac a ynganai.

15. A ymffrostia y fwyell yn erbyn yr hwn a gymyno â hi? a ymfawryga y llif yn erbyn yr hwn a'i tynno? megis pe ymddyrchafai y wialen yn erbyn y rhai a'i codai hi i fyny, neu megis pe ymddyrchafai y ffon, fel pe na byddai yn bren.

16. Am hynny yr hebrwng yr Arglwydd, Arglwydd y lluoedd, ymhlith ei freision ef gulni; a than ei ogoniant ef y llysg llosgiad megis llosgiad tân.

17. A bydd goleuni Israel yn dân, a'i Sanct ef yn fflam: ac efe a lysg, ac a ysa ei ddrain a'i fieri mewn un dydd:

18. Gogoniant ei goed hefyd, a'i ddoldir, a ysa efe, enaid a chorff: a byddant megis pan lesmeirio banerwr.

19. A phrennau gweddill ei goed ef a fyddant o rifedi, fel y rhifo plentyn hwynt.

20. A bydd yn y dydd hwnnw, na chwanega gweddill Israel, a'r rhai a ddihangodd o dŷ Jacob, ymgynnal mwyach ar yr hwn a'u trawodd; ond pwysant ar yr Arglwydd, Sanct Israel, mewn gwirionedd.

21. Y gweddill a ddychwel, sef gweddill Jacob, at y Duw cadarn.

22. Canys pe byddai dy bobl di Israel fel tywod y môr, gweddill ohonynt a ddychwel: darfodiad terfynedig a lifa drosodd mewn cyfiawnder.

Darllenwch bennod gyflawn Eseia 10