Hen Destament

Testament Newydd

Eseia 10:1-9 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Gwae y rhai sydd yn gwneuthur deddfau anwir, a'r ysgrifenyddion sydd yn ysgrifennu blinder;

2. I ymchwelyd y tlodion oddi wrth farn, ac i ddwyn barn angenogion fy mhobl: fel y byddo gweddwon yn ysbail iddynt, ac yr anrheithiont yr amddifaid.

3. A pha beth a wnewch yn nydd yr ymweliad, ac yn y distryw a ddaw o bell? at bwy y ffowch am gynhorthwy? a pha le y gadewch eich gogoniant?

4. Hebof fi y crymant dan y carcharorion, a than y rhai a laddwyd y syrthiant. Er hyn oll ni ddychwelodd ei lid ef, ond eto y mae ei law ef yn estynedig.

5. Gwae Assur, gwialen fy llid, a'r ffon yn eu llaw hwynt yw fy nigofaint.

6. At genedl ragrithiol yr anfonaf ef, ac yn erbyn pobl fy nicter y gorchmynnaf iddo ysbeilio ysbail, ac ysglyfaethu ysglyfaeth, a'u gosod hwynt yn sathrfa megis tom yr heolydd.

7. Ond nid felly yr amcana efe, ac nid felly y meddwl ei galon; eithr y mae yn ei fryd ddifetha a thorri ymaith genhedloedd nid ychydig.

8. Canys efe a ddywed, Onid yw fy nhywysogion i gyd yn frenhinoedd?

9. Onid fel Charcemis yw Calno? onid fel Arpad yw Hamath? onid fel Damascus yw Samaria?

Darllenwch bennod gyflawn Eseia 10