7. Y mae eich gwlad yn anrheithiedig, eich dinasoedd wedi eu llosgi â thân: eich tir â dieithriaid yn ei ysu yn eich gŵydd, ac wedi ei anrheithio fel ped ymchwelai estroniaid ef.
8. Merch Seion a adewir megis lluesty mewn gwinllan, megis llety mewn gardd cucumerau, megis dinas warchaeëdig.
9. Oni buasai i Arglwydd y lluoedd adael i ni ychydig iawn o weddill, fel Sodom y buasem, a chyffelyb fuasem i Gomorra.
10. Gwrandewch air yr Arglwydd, tywysogion Sodom; clywch gyfraith ein Duw ni, pobl Gomorra.
11. Beth yw lluosowgrwydd eich aberthau i mi? medd yr Arglwydd: llawn ydwyf o boethaberthau hyrddod, ac o fraster anifeiliaid breision; gwaed bustych hefyd, ac ŵyn, a bychod, nid ymhyfrydais ynddynt.
12. Pan ddeloch i ymddangos ger fy mron, pwy a geisiodd hyn ar eich llaw, sef sengi fy nghynteddau?
13. Na chwanegwch ddwyn offrwm ofer: arogl‐darth sydd ffiaidd gennyf; ni allaf oddef y newyddloerau na'r Sabothau, cyhoeddi cymanfa; anwiredd ydyw, sef yr uchel ŵyl gyfarfod.
14. Eich lleuadau newydd a'ch gwyliau gosodedig a gasaodd fy enaid: y maent yn faich arnaf; blinais yn eu dwyn.
15. A phan estynnoch eich dwylo, mi a guddiaf fy llygaid rhagoch: hefyd pan weddïoch lawer, ni wrandawaf: eich dwylo sydd lawn o waed.
16. Ymolchwch, ymlanhewch, bwriwch ymaith ddrygioni eich gweithredoedd oddi ger bron fy llygaid; peidiwch â gwneuthur drwg;
17. Dysgwch wneuthur daioni: ceisiwch farn, gwnewch uniondeb i'r gorthrymedig, gwnewch farn i'r amddifad, dadleuwch dros y weddw.