Hen Destament

Testament Newydd

Eseia 1:14-31 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

14. Eich lleuadau newydd a'ch gwyliau gosodedig a gasaodd fy enaid: y maent yn faich arnaf; blinais yn eu dwyn.

15. A phan estynnoch eich dwylo, mi a guddiaf fy llygaid rhagoch: hefyd pan weddïoch lawer, ni wrandawaf: eich dwylo sydd lawn o waed.

16. Ymolchwch, ymlanhewch, bwriwch ymaith ddrygioni eich gweithredoedd oddi ger bron fy llygaid; peidiwch â gwneuthur drwg;

17. Dysgwch wneuthur daioni: ceisiwch farn, gwnewch uniondeb i'r gorthrymedig, gwnewch farn i'r amddifad, dadleuwch dros y weddw.

18. Deuwch yr awr hon, ac ymresymwn, medd yr Arglwydd: pe byddai eich pechodau fel ysgarlad, ânt cyn wynned â'r eira; pe cochent fel porffor, byddant fel gwlân.

19. Os byddwch ewyllysgar ac ufudd, daioni y tir a fwytewch.

20. Ond os gwrthodwch, ac os anufuddhewch, â chleddyf y'ch ysir: canys genau yr Arglwydd a'i llefarodd.

21. Pa wedd yr aeth y ddinas ffyddlon yn butain! cyflawn fu o farn: lletyodd cyfiawnder ynddi; ond yr awr hon lleiddiaid.

22. Dy arian a aeth yn sothach, dy win sydd wedi ei gymysgu â dwfr:

23. Dy dywysogion sydd gyndyn, ac yn gyfranogion â lladron; pob un yn caru rhoddion, ac yn dilyn gwobrau: ni farnant yr amddifad, a chŵyn y weddw ni chaiff ddyfod atynt.

24. Am hynny medd yr Arglwydd, Arglwydd y lluoedd, cadarn Dduw Israel, Aha, ymgysuraf ar fy ngwrthwynebwyr, ac ymddialaf ar fy ngelynion.

25. A mi a ddychwelaf fy llaw arnat, ac a lân buraf dy sothach, ac a dynnaf ymaith dy holl alcam.

26. Adferaf hefyd dy farnwyr fel cynt, a'th gynghoriaid megis yn y dechrau: wedi hynny y'th elwir yn Ddinas cyfiawnder, yn Dref ffyddlon.

27. Seion a waredir â barn, a'r rhai a ddychwelant ynddi â chyfiawnder.

28. A dinistr y troseddwyr a'r pechaduriaid fydd ynghyd; a'r rhai a ymadawant â'r Arglwydd, a ddifethir.

29. Canys cywilyddiant o achos y derw a chwenychasoch; a gwarthruddir chwi am y gerddi a ddetholasoch.

30. Canys byddwch fel derwen â'i dail yn syrthio, ac fel gardd heb ddwfr iddi.

31. A'r cadarn fydd fel carth, a'i weithydd fel gwreichionen: a hwy a losgant ill dau ynghyd, ac ni bydd a'u diffoddo.

Darllenwch bennod gyflawn Eseia 1