Eseciel 5:11 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)
Am hynny, fel mai byw fi, medd yr Arglwydd Dduw, Yn ddiau am halogi ohonot fy nghysegr â'th holl ffieidd‐dra ac â'th holl frynti, am hynny hefyd y prinhaf finnau di; ac nid arbed fy llygad, ac ni thosturiaf chwaith.