Hen Destament

Testament Newydd

Eseciel 5:1-6 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Tithau fab dyn, cymer i ti gyllell lem, cymer i ti ellyn eillio, ac eillia dy ben a'th farf: yna y cymeri i ti gloriannau pwys, ac y rhenni hwynt.

2. Traean a losgi yn tân yng nghanol y ddinas, pan gyflawner dyddiau y gwarchae; traean a gymeri hefyd, ac a'i trewi â'r gyllell o'i amgylch; a thraean a daeni gyda'r gwynt: a mi a dynnaf gleddyf ar eu hôl hwynt.

3. Cymer hefyd oddi yno ychydig o nifer, a chlyma hwynt yn dy odre.

4. A chymer eilwaith rai ohonynt hwy, a thafl hwynt i ganol y tân, a llosg hwynt yn tân: ohono y daw allan dân i holl dŷ Israel.

5. Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Jerwsalem yw hon: gosodais hi ymysg y cenhedloedd a'r tiroedd o'i hamgylch.

6. A hi a newidiodd fy marnedigaethau i ddrygioni yn fwy na'r cenhedloedd, a'm deddfau yn fwy na'r gwledydd sydd o'i hamgylch: canys gwrthodasant fy marnedigaethau a'm deddfau, ni rodiasant ynddynt.

Darllenwch bennod gyflawn Eseciel 5