Hen Destament

Testament Newydd

Eseciel 48:21-34 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

21. A'r hyn a adewir fydd i'r tywysog, oddeutu yr offrwm cysegredig, ac o berchenogaeth y ddinas, ar gyfer y pum mil ar hugain o'r offrwm tua therfyn y dwyrain, a thua'r gorllewin, ar gyfer y pum mil ar hugain tua therfyn y gorllewin, gyferbyn â rhannau y tywysog: a'r offrwm cysegredig fydd; a chysegrfa y tŷ fydd yng nghanol hynny.

22. Felly o berchenogaeth y Lefiaid, ac o berchenogaeth y ddinas, yng nghanol yr hyn sydd i'r tywysog rhwng terfyn Jwda a therfyn Benjamin, eiddo y tywysog fydd.

23. Ac am y rhan arall o'r llwythau, o du y dwyrain hyd du y gorllewin, y bydd rhan i Benjamin.

24. Ac ar derfyn Benjamin, o du y dwyrain hyd du y gorllewin, y bydd rhan i Simeon.

25. Ac ar derfyn Simeon, o du y dwyrain hyd du y gorllewin, rhan i Issachar.

26. Ac ar derfyn Issachar, o du y dwyrain hyd du y gorllewin, rhan i Sabulon.

27. Ac ar derfyn Sabulon, o du y dwyrain hyd du y gorllewin, rhan i Gad.

28. Ac ar derfyn Gad, ar y tu deau tua'r deau, y terfyn fydd o Tamar hyd ddyfroedd cynnen Cades, a hyd yr afon tua'r môr mawr.

29. Dyma y tir a rennwch wrth goelbren yn etifeddiaeth i lwythau Israel, a dyma eu rhannau hwynt, medd yr Arglwydd Dduw.

30. Dyma hefyd fynediad allan y ddinas, o du y gogledd pum cant a phedair mil o fesurau.

31. A phyrth y ddinas fydd ar enwau llwythau Israel: tri phorth tua'r gogledd; porth Reuben yn un, porth Jwda yn un, porth Lefi yn un.

32. Ac ar du y dwyrain pum cant a phedair mil: a thri phorth; sef porth Joseff yn un, porth Benjamin yn un, porth Dan yn un.

33. A thua'r deau pum cant a phedair mil o fesurau: a thri phorth; porth Simeon yn un, a phorth Issachar yn un, a phorth Sabulon yn un.

34. Tua'r gorllewin y bydd pum cant a phedair mil, a'u tri phorth; porth Gad yn un, porth Aser yn un, a phorth Nafftali yn un.

Darllenwch bennod gyflawn Eseciel 48