1. A dyma enwau y llwythau. O gwr y gogledd ar duedd ffordd Hethlon, ffordd yr eir i Hamath, Hasar‐enan, terfyn Damascus tua'r gogledd, i duedd Hamath, (canys y rhai hyn oedd ei derfynau dwyrain a gorllewin,) rhan i Dan.
2. Ac ar derfyn Dan, o du y dwyrain hyd du y gorllewin, rhan i Aser.
3. Ac ar derfyn Aser, o du y dwyrain hyd du y gorllewin, i Nafftali ran.
4. Ac ar derfyn Nafftali, o du y dwyrain hyd du y gorllewin, i Manasse ran.
5. Ac ar derfyn Manasse, o du y dwyrain hyd du y gorllewin, i Effraim ran.
6. Ac ar derfyn Effraim, o du y dwyrain hyd du y gorllewin, i Reuben ran.
7. Ac ar derfyn Reuben, o du y dwyrain hyd du y gorllewin, i Jwda ran.
8. Ac ar derfyn Jwda, o du y dwyrain hyd du y gorllewin, y bydd yr offrwm a offrymoch yn bum mil ar hugain o gorsennau o led, ac o hyd fel un o'r rhannau, o du y dwyrain hyd du y gorllewin; a'r cysegr fydd yn ei ganol.
9. Yr offrwm a offrymoch i'r Arglwydd fydd bum mil ar hugain o hyd, a dengmil o led.
10. Ac eiddo y rhai hyn fydd yr offrwm cysegredig, sef eiddo yr offeiriaid, fydd pum mil ar hugain tua'r gogledd o hyd, a dengmil tua'r gorllewin o led; felly dengmil tua'r dwyrain o led, a phum mil ar hugain tua'r deau o hyd: a chysegr yr Arglwydd fydd yn ei ganol.
11. I'r offeiriaid cysegredig o feibion Sadoc y bydd, y rhai a gadwasant fy nghadwraeth, y rhai ni chyfeiliornasant pan gyfeiliornodd plant Israel, megis y cyfeiliornodd y Lefiaid.
12. A bydd eiddynt yr hyn a offrymir o offrwm y tir, yn sancteiddbeth cysegredig wrth derfyn y Lefiaid.
13. A'r Lefiaid a gânt, ar gyfer terfyn yr offeiriaid, bum mil ar hugain o hyd, a dengmil o led: pob hyd fydd bum mil ar hugain, a'r lled yn ddengmil.
14. Hefyd ni werthant ddim ohono, ac ni chyfnewidiant, ac ni throsglwyddant flaenffrwyth y tir; oherwydd cysegredig yw i'r Arglwydd.