3. A phan aeth y gŵr yr hwn oedd â'r llinyn yn ei law allan tua'r dwyrain, efe a fesurodd fil o gufyddau, ac a'm tywysodd i trwy y dyfroedd; a'r dyfroedd hyd y fferau.
4. Ac efe a fesurodd fil eraill, ac a'm tywysodd trwy y dyfroedd; a'r dyfroedd hyd y gliniau: ac a fesurodd fil eraill, ac a'm tywysodd trwodd; a'r dyfroedd hyd y lwynau:
5. Ac efe a fesurodd fil eraill; ac afon oedd, yr hon ni allwn fyned trwyddi: canys codasai y dyfroedd yn ddyfroedd nofiadwy, yn afon ni ellid myned trwyddi.
6. Ac efe a ddywedodd wrthyf, A welaist ti hyn, fab dyn? Yna y'm tywysodd, ac y'm dychwelodd hyd lan yr afon.
7. Ac wedi i mi ddychwelyd, wele ar fin yr afon goed lawer iawn o'r tu yma ac o'r tu acw.
8. Ac efe a ddywedodd wrthyf, Y dyfroedd hyn sydd yn myned allan tua bro y dwyrain, ac a ddisgynnant i'r gwastad, ac a ânt i'r môr: ac wedi eu myned i'r môr, yr iacheir y dyfroedd.
9. A bydd i bob peth byw, yr hwn a ymlusgo, pa le bynnag y delo yr afonydd, gael byw: ac fe fydd pysgod lawer iawn, oherwydd dyfod y dyfroedd hyn yno: canys iacheir hwynt, a phob dim lle y delo yr afon fydd byw.
10. A bydd i'r pysgodwyr sefyll arni, o En‐gedi hyd En‐eglaim; hwy a fyddant yn daenfa rhwydau: eu pysgod fydd yn ôl eu rhyw, fel pysgod y môr mawr, yn llawer iawn.
11. Ei lleoedd lleidiog a'i chorsydd ni iacheir; i halen y rhoddir hwynt.
12. Ac wrth yr afon y cyfyd, ar ei min o'r ddeutu, bob pren ymborth; ei ddalen ni syrth, a'i ffrwyth ni dderfydd: yn ei fisoedd y dwg ffrwyth newydd; oherwydd ei ddyfroedd, hwy a ddaethant allan o'r cysegr: am hynny y bydd ei ffrwyth yn ymborth, a'i ddalen yn feddyginiaeth.
13. Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Dyma y terfyn wrth yr hwn y rhennwch y tir yn etifeddiaeth i ddeuddeg llwyth Israel: Joseff a gaiff ddwy o rannau.