15. Fel hyn y darparant yr oen, a'r bwyd‐offrwm, a'r olew, o fore i fore, yn boethoffrwm gwastadol.
16. Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Os rhydd y tywysog rodd i neb o'i feibion o'i etifeddiaeth, eiddo ei feibion fydd hynny, eu perchenogaeth fydd hynny wrth etifeddiaeth.
17. Ond pan roddo efe rodd o'i etifeddiaeth i un o'i weision, bydded hefyd eiddo hwnnw hyd flwyddyn y rhyddid; yna y dychwel i'r tywysog: eto ei etifeddiaeth fydd eiddo ei feibion, iddynt hwy.
18. Ac na chymered y tywysog o etifeddiaeth y bobl, i'w gorthrymu hwynt allan o'u perchenogaeth; eithr rhodded etifeddiaeth i'w feibion o'i berchenogaeth ei hun: fel na wasgarer fy mhobl bob un allan o'i berchenogaeth.
19. Ac efe a'm dug trwy y ddyfodfa oedd ar ystlys y porth, i ystafelloedd cysegredig yr offeiriaid, y rhai oedd yn edrych tua'r gogledd: ac wele yno le ar y ddau ystlys tua'r gorllewin.