Hen Destament

Testament Newydd

Eseciel 45:16-25 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

16. Holl bobl y tir fyddant dan yr offrwm hwn i'r tywysog yn Israel.

17. Ac ar y tywysog y bydd poethoffrwm, a bwyd‐offrwm, a diod‐offrwm ar yr uchel wyliau, a'r newyddloerau, a'r Sabothau, trwy holl osodedig wyliau tŷ Israel: efe a ddarpara bech‐aberth, a bwyd‐offrwm, a phoethoffrwm, ac aberthau hedd, i wneuthur cymod dros dŷ Israel.

18. Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; O fewn y mis cyntaf, ar y dydd cyntaf o'r mis, y cymeri fustach ieuanc perffaith‐gwbl, ac y puri y cysegr.

19. Yna y cymer yr offeiriad o waed y pech‐aberth, ac a'i rhydd ar orsingau y tŷ, ac ar bedair congl ystôl yr allor, ac ar orsingau porth y cyntedd nesaf i mewn.

20. Felly y gwnei hefyd ar y seithfed dydd o'r mis, dros y neb a becho yn amryfus, a thros yr ehud: felly y purwch y tŷ.

21. Yn y mis cyntaf, ar y pedwerydd dydd ar ddeg o'r mis, y bydd i chwi y pasg; gŵyl fydd i chwi saith niwrnod: bara croyw a fwytewch.

22. A'r tywysog a ddarpara ar y dydd hwnnw drosto ei hun, a thros holl bobl y wlad, fustach yn bech‐aberth.

23. A saith niwrnod yr ŵyl y darpara efe yn offrwm poeth i'r Arglwydd, saith o fustych, a saith o hyrddod perffaith‐gwbl, bob dydd o'r saith niwrnod; a bwch geifr yn bech‐aberth bob dydd.

24. Bwyd‐offrwm hefyd a ddarpara efe, sef effa gyda phob bustach, ac effa gyda phob hwrdd, a hin o olew gyda'r effa.

25. Yn y seithfed mis, ar y pymthegfed dydd o'r mis, y gwna y cyffelyb ar yr ŵyl dros saith niwrnod; sef fel y pech‐aberth, fel y poethoffrwm, ac fel y bwyd‐offrwm, ac fel yr olew.

Darllenwch bennod gyflawn Eseciel 45