21. Hefyd, nac yfed un offeiriad win, pan ddelont i'r cyntedd nesaf i mewn.
22. Na chymerant chwaith yn wragedd iddynt wraig weddw, neu ysgaredig; eithr morynion o had tŷ Israel, neu y weddw a fyddo gweddw offeiriad, a gymerant.
23. A dysgant i'm pobl ragor rhwng y sanctaidd a'r halogedig, a gwnânt iddynt wybod gwahan rhwng aflan a glân.
24. Ac mewn ymrafael hwy a safant mewn barn, ac a farnant yn ôl fy marnedigaethau i: cadwant hefyd fy nghyfreithiau a'm deddfau yn fy holl uchel wyliau; a sancteiddiant fy Sabothau.
25. Ni ddeuant chwaith at ddyn marw i ymhalogi: eithr wrth dad, ac wrth fam, ac wrth fab, ac wrth ferch, wrth frawd, ac wrth chwaer yr hon ni bu eiddo gŵr, y gallant ymhalogi.
26. Ac wedi ei buredigaeth y cyfrifir iddo saith niwrnod.
27. A'r dydd yr elo i'r cysegr, o fewn y cyntedd nesaf i mewn, i weini yn y cysegr, offrymed ei bech‐aberth, medd yr Arglwydd Dduw.
28. A bydd yn etifeddiaeth iddynt hwy; myfi yw eu hetifeddiaeth hwy. Ac na roddwch berchenogaeth iddynt hwy yn Israel; myfi yw eu perchenogaeth hwy.
29. Y bwyd‐offrwm, a'r pech‐aberth, a'r aberth dros gamwedd, a fwytânt hwy; a phob peth cysegredig yn Israel fydd eiddynt hwy.
30. A blaenion pob blaenffrwyth o bob peth, a phob offrwm pob dim oll o'ch holl offrymau, fydd eiddo yr offeiriaid: blaenffrwyth eich toes hefyd a roddwch i'r offeiriad, i osod bendith ar dy dŷ.
31. Na fwytaed yr offeiriaid ddim a fu farw ei hun, neu ysglyfaeth o aderyn neu o anifail.