Hen Destament

Testament Newydd

Eseciel 44:13-26 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

13. Ac ni ddeuant yn agos ataf fi i offeiriadu i mi, nac i nesáu at yr un o'm pethau sanctaidd yn y cysegr sancteiddiolaf: eithr dygant eu cywilydd, a'u ffieidd‐dra a wnaethant.

14. Eithr gwnaf hwynt yn geidwaid cadwraeth y tŷ, yn ei holl wasanaeth, ac yn yr hyn oll a wneir ynddo.

15. Yna yr offeiriaid y Lefiaid, meibion Sadoc, y rhai a gadwasant gadwraeth fy nghysegr, pan gyfeiliornodd meibion Israel oddi wrthyf, hwynt‐hwy a nesânt ataf fi i'm gwasanaethu, ac a safant o'm blaen i offrymu i mi y braster a'r gwaed, medd yr Arglwydd Iôr:

16. Hwy a ânt i mewn i'm cysegr, a hwy a nesânt at fy mwrdd i'm gwasanaethu, ac a gadwant fy nghadwraeth.

17. A phan ddelont i byrth y cyntedd nesaf i mewn, gwisgant wisgoedd lliain; ac na ddeued gwlân amdanynt, tra y gwasanaethant ym mhyrth y cyntedd nesaf i mewn, ac o fewn.

18. Capiau lliain fydd am eu pennau hwynt, a llodrau lliain fydd am eu llwynau hwynt: nac ymwregysant â dim a baro chwys.

19. A phan elont i'r cyntedd nesaf allan, sef at y bobl i'r cyntedd oddi allan, diosgant eu gwisgoedd y rhai y gwasanaethasant ynddynt, a gosodant hwynt o fewn celloedd y cysegr, a gwisgant ddillad eraill; ac na chysegrant y bobl â'u gwisgoedd.

20. Eu pennau hefyd nid eilliant, ac ni ollyngant eu gwallt yn llaes: gan dalgrynnu talgrynnant eu pennau.

21. Hefyd, nac yfed un offeiriad win, pan ddelont i'r cyntedd nesaf i mewn.

22. Na chymerant chwaith yn wragedd iddynt wraig weddw, neu ysgaredig; eithr morynion o had tŷ Israel, neu y weddw a fyddo gweddw offeiriad, a gymerant.

23. A dysgant i'm pobl ragor rhwng y sanctaidd a'r halogedig, a gwnânt iddynt wybod gwahan rhwng aflan a glân.

24. Ac mewn ymrafael hwy a safant mewn barn, ac a farnant yn ôl fy marnedigaethau i: cadwant hefyd fy nghyfreithiau a'm deddfau yn fy holl uchel wyliau; a sancteiddiant fy Sabothau.

25. Ni ddeuant chwaith at ddyn marw i ymhalogi: eithr wrth dad, ac wrth fam, ac wrth fab, ac wrth ferch, wrth frawd, ac wrth chwaer yr hon ni bu eiddo gŵr, y gallant ymhalogi.

26. Ac wedi ei buredigaeth y cyfrifir iddo saith niwrnod.

Darllenwch bennod gyflawn Eseciel 44